Cyfleusterau Eraill
Mae gennym ystod eang o offer cynadleddau i’w llogi yn Venue Cymru. Ond os oes gennych chi ofynion penodol ffoniwch y tîm Cynadleddau a Digwyddiadau a fydd yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu eich anghenion.
Mae'r rhan fwyaf o'n hystafelloedd cyfarfod yn cynnwys sgriniau taflunydd mawr parhaol wedi eu gosod ar waliau a siartiau troi. Mae unedau symudol ychwanegol hefyd ar gael yn ôl yr angen.
Gallwn ddarparu’r holl offer sydd ei angen arnoch i gynnal cynhadledd lwyddiannus a phroffesiynol gan gynnwys cyfrifiaduron glin, uwch daflunyddion, taflunyddion sleidiau 35mm a chyfuniadau Teledu/Fideo/DVD.
Mae System Sain Gyhoeddus hefyd ar gael gyda’r dewis o gael dolen ar gyfer pobl drwm eu clyw. Rydym yn darparu cymorth AV a TG llawn gyda’r holl offer a logir.
Set y Gynhadledd
Mae gan Venue Cymru fyrddau cefn pwrpasol ar gyfer cynadleddau, gyda gorchuddion llwydlas a gellir eu personoli drwy ychwanegu arwyddion corfforaethol. Gellir codi’r set mewn sawl gwahanol fodd i weddu’r cynllun llwyfan a ddymunir ac mae’n cynnwys man ar gyfer gosod sgrin taflunydd. Yn ogystal â’r brif set, gall y lleoliad gynhyrchu desgiau tribiwnlys ar gyfer eich prif fwrdd a darllenfeydd pwrpasol mewn lliwiau a steiliau i gyfateb â delwedd y sefydliad.
Fel arall, os ydych chi’n dymuno comisiynu rhywbeth yn benodol ar gyfer eich cynhadledd, byddem yn fwy na pharod i reoli’r broses hon ar eich rhan, gan gasglu dyfynbrisiau a dyluniadau sy’n addas i’ch cyllideb chi.
Mae manylion llawn a chostau offer AV a Manylebau Technegol ar gael ar eich cais.
Holwch am unrhyw gyfleuster neu wasanaeth arall y byddwch ei angen.
Theatr
Manylebau Technegol y Theatr [PDF]
Cynllun Safonol Llofft Daclu’r Llwyfan [PDF]
Cynllun Llawr [PDF]
Arena
Manylebau Technegol yr Arena [PDF]
Cynllun Llofft Daclu’r Arena [PDF]
Y Neuadd
Manylebau Technegol y Neuadd [PDF]
Cynllun Llofft Daclu’r Neuadd [PDF]