Ewch i safle Theatr Venue Cymru

  • Language:
  • English (United Kingdom)
  • Cymraeg (GB)
  • Hafan / Cynllunio Digwyddiad / Bwyd a Diod

    Bwyd a Diod

    Arlwyo ar gyfer Cynadleddau


    Yn Venue Cymru rydym yn gweithio'n agos gyda'n arlwywyr proffesiynol ar y safle, i ddarparu ystod eang o atebion arlwyo i ddiwallu eich anghenion unigol.

    Gan gynnig amrywiaeth eang o fwydlenni bwffe poeth ac oer a gwledda ar gyfer hyd at 1000 o bobl yn ogystal ag opsiynau ysgafnach megis canapés, teisennau a diodydd egni, mae Venue Cymru hefyd yn cynnig detholiad o ddewisiadau amgen iachach fel ein Bwffe Bys a Bawd Iach a smwddis ffrwythau ffres.

    Diolch i'n ceginau a staff ar y safle, gallwch ddisgwyl ansawdd uchel a hyblygrwydd eithriadol. Trafodwch unrhyw newidiadau yr hoffech eu gwneud i'n bwydlenni safonol gyda'r tîm Cynadleddau a Digwyddiadau.

    Cliciwch ar y dewisiadau ar ochr chwith y dudalen hon i weld ein bwydlenni arlwyo cynhadledd.

    Bar Caffi Catlin


    Mae Bar Caffi Catlin ar agor drwy'r dydd i fynychwyr cynadleddau, y theatr ac aelodau o'r cyhoedd. Mae'n far trwyddedig sy’n gweini cinio ysgafn, cacennau a theisennau, a diodydd poeth ac oer (coffi Starbucks) mewn amgylchedd hamddenol cyfforddus.

    Bwyty Y Review


    Wedi'i leoli uwchben y bar caffi, mae bwyty Y Review yn cynnig golygfeydd panoramig syfrdanol o'r môr ar draws bae Llandudno. Mae'r bwyty trwyddedig yn llawn yn cynnig bwydlen amrywiol a dewis o winoedd gwych.

    Mae'r bwyty ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn 12pm i 2.30pm a dwy awr a hanner cyn perfformiadau'r theatr ar gyfer prydau cyn sioeau.

    icon Touches of Inspiration Cinio (137.99 kB) 

    icon Bwydlen Gwanwyn_Mawrth - Mai (697.5 kB)

    icon Bwydlen plant (27.74 kB)


    Caiff oriau agor eu hymestyn ar ddiwrnodau pan fydd perfformiad yn y theatr. Ar ddiwrnodau perfformiad mae’r bwyty ar agor nes bydd y sioe yn dechrau.

    I gadarnhau amseroedd agor neu archebu ym mwyty Y Review, ffoniwch 01492 873641. Argymhellir archebu ymlaen llaw.